Iesu sy'n fwy na'r nef ei hun,
Yn fwy na'r ddaear las;
Ac Iesu'n unig fydd fy oll,
Fyth, fyth, o hyn i ma's.
Ni feddaf ar y ddaear lawr,
Ni feddaf yn y ne',
Neb ag a bery'n anwyl im',
Yn unig ond Efe.
Mae ynddo'i hunan drysor mwy,
Nag fedd yr India lawn;
Fe brynodd i mi fwy na'r byd,
Ar groesbren un prydnawn.
Fe brynodd imi euraidd wisg,
Trwy ddyoddef marwol glwy';
Ei angau Ef a guddia'm gwarth
I dragwyddoldeb mwy.
Cyflawnder nerth, cyflawnder gras,
Cyflawnder nef y nef;
Uwch deall
seraph pur a sant
Sy'n trigo ynddo Ef.
O n'allwn rodio er ei glod,
Ac iddo bellach fyw;
A phob anadliad fynd i ma's,
I ganmawl gras fy Nuw.
William Williams 1717-91
[Mesur: MC 8686] gwelir: At wedd dy wyneb nid yw ddim Ffoed negeseuau gwag y dydd Iesu yw tegwch mawr y byd Na foed fy mywyd bellach mwy Ni feddaf ar y ddaear fawr/lawr |
Jesus is greater than heaven itself,
More than the blue-green earth;
And Jesus alone shall be my all,
Forever and ever from now on.
I do not have on the earth below,
Nor do I have in heaven
Anyone who will continue dear to me,
But only He.
In himself is more treasure,
Than belongs to full India;
He purchased for me more than the world,
On the wooden cross one afternoon.
He purchased for me golden clothes,
Through suffering a mortal wound;
His own death shall cover my shame
Henceforth to eternity.
The fullness of strength, the fullness of grace,
The fullness of the heaven of heaven;
Above the understanding
of a pure seraph and a saint
Dwells within Him.
O that I could rove for his praise,
And to him live henceforth;
And every breath go out,
To laud the grace of my God.
tr. 2013 Richard B Gillion
|
|